Dysg, DELLS/AADGOS, WAG/LlCC

WAG Logo Dysg Logo
Wanna download Rage Against The Machine ringtones absolutelly free. We have hudge collection of other mp3 realtones. Download it now! Satisfaction garanteee!Need download best ringtones for your cellphone? LeAnn Rimes ringtones - the best music archive. Download and be cool! Enjoy for ringtones.WoW! I found tons music of Kurt Carr Singers ringtones. You can download it now! Hurry up. All carriers are supported.

Rhaglen Cymorth Sgiliau Allweddol Cymru

Mae Sgiliau Allweddol yn set o sgiliau trosglwyddadwy â chysylltiad rhyngddynt sy'n sail i astudio a chyflogadwyedd.  Maent yn cael eu cydnabod a'u hachredu yn Lloegr, Cymru a Gogledd. Mae Sgiliau Allweddol yn chwarae rhan flaenllaw mewn codi safonau ar gyfer Dysgu yng Nghymru.  Maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd fel y dangosir gan y nifer gynyddol o Wobrau Sgiliau Allweddol yn Nghymru ers 2000.

Graph of Key Skills Achievement in Wales

Ystadegau Sgiliau Allweddol yng Nghymru  (view online)

Edrychwch ar gyflwyniad i Sgiliau Allweddol 

Read: Key Skills Policy Guide 2007

Cliciwch ar y linciau ar y chwith i ddysgu mwy am ein rhwydweithiau a hyfforddiant am ddim, rhaglenni datblygiad proffesiynol, adnoddau ymarfer da.

 
Dysg - safle we newydd PDF Argraffu  E-bost
Monday, 11 August 2008

Mae’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi cael ei had-drefnu. Nid yw’r brand Dysg yn bod mwyach felly ac mae gwahanol elfennau’r Tîm Dysg wedi’u hadleoli.

Mae Rhwydweithiau Effeithiolrwydd Ansawdd, Rheolwyr Ansawdd mewn AB, Uwch Reolwyr Cwricwlwm AB, a Chydraddoldeb a Dysgu Cynhwysol yn cael eu trefnu gan Tîm Cyfathrebu ac Ymrwymiad yn yr Isadran Rheoli Gwybodaeth. Gellir cael manylion am ddigwyddiadau’r dyfodol ar wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru.

Mae’r Rhaglen Cymorth Sgiliau Allweddol wedi’i hadleoli bellach i’r Is-adran Gwella Dysgu a Datblygiad Proffesiynol o fewn APADGOS ochr yn ochr â’r Tîm Addysgeg. Gellir gweld gwybodaeth am y digwyddiadau sydd i’w cynnal cyn hir ynghylch Sgiliau Allweddol drwy wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru a gwefan y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu (GCaD). Gellir cael adnoddau ar Sgiliau Allweddol a chanllawiau ar arferion da drwy wefan y GCaD.

Ni wnaed unrhyw newid i wefan e-dysg.

 
Newyddion diweddaraf am: Rhaglen Cymorth Sgiliau Allweddol Cymru PDF Argraffu  E-bost
Wednesday, 19 March 2008

Open letter from Dr. Cheryl Morgan

Annwyl Gyfeillion a ChydweithwyrNewyddion diweddaraf am: Rhaglen Cymorth Sgiliau Allweddol CymruAr ôl saith mlynedd yn arwain Rhaglen Cymorth Sgiliau Allweddol Cymru (RCSAC), rwyf am symud i swydd newydd yn APADGOS ar 1 Ebrill 2008.  Mae’n bleser gennyf ddweud wrthych y bydd Kim Clark a Jeff yn dal i arwain RCSAC ac y bydd Helen Arthur yn Bennaeth newydd y Gangen Strategaethau Dysgu ac Addysgu sy’n cynnwys addysgeg a Rhaglen Cymorth Sgiliau Allweddol Cymru.  Mae Lesley’n gadael tîm y RCSAC ac yn symud i swyddfa Abertawe i weithio yn Nhîm Ardal De Orllewin a Chanolbarth Cymru fel Swyddog Perfformiad Darparwyr ac Effeithlonrwydd Addysgol. Rwy’n siwr y byddwch am ddiolch iddi am ei gwaith gwerthfawr dros dair blynedd a mwy.

 

Am ddarllen mwy...
 
Important Changes to Key Skills Support Programme in ENGLAND (KSSP) PDF Argraffu  E-bost
Tuesday, 26 February 2008

  

 

Gwaetha’r modd, ar ôl 9 mlynedd, daw ein chwaer-raglen, Rhaglen Cymorth Sgiliau Allweddol (RCSA), i ben ar 31 Mawrth 2008.  Fodd bynnag, bydd ystod eang o adnoddau yn parhau ar gael i ymarferwyr. 

 

Am ddarllen mwy...
 
Dyfarniad Poster Gwerthoedd Dysgu i Fyw PDF Argraffu  E-bost
Friday, 21 December 2007

 

 

Gall Dyfarniad Poster Gwerthoedd Dysgu i Fyw wneud cyfraniad gwerthfawr tuag at fodloni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a hefyd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, yn enwedig yr elfennau Sgiliau Allweddol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.  Mae'r rhaglen yn ddelfrydol i ddisgyblion ysgol ym mlynyddoedd 8 i 11, yn ogystal ag ôl-16  

 

Am ddarllen mwy...
 
Cyfuno Sgiliau Allweddol a Sgiliau Sylfaenol PDF Argraffu  E-bost
Wednesday, 12 December 2007

Mae safonau cyfredol Llythrennedd Oedolion, Rhifedd Oedolion, Sgiliau Bywyd mewn TGCh a Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh wedi’u cyfuno i gynhyrchu un gyfres o safonau sgiliau ac mae cymwysterau o lefel Mynediad 1 i lefel 3 yn cael eu datblygu. Bydd Lefel 4 yn dilyn maes o law. Mae trafodaethau manwl eisoes yn cael eu cynnal i ddatblygu’r seilwaith i helpu gweithredu’r gyfres newydd o gymwysterau.
O lefel 1 i lefel 4, bydd y cymwysterau hyn yn cael eu hasesu drwy bortffolio o dystiolaeth. Bydd gwaith yn cael ei wneud i ymchwilio i’r dulliau asesu mwyaf priodol ar gyfer lefel Mynediad.
Bydd diweddariad arall sy’n cynnwys y canlynol yn cael ei gyhoeddi maes o law:

 

  • trefniadau i ail-frandio’r cymwysterau cyfun;
  • trefniadau i ddatblygu dogfennau ategol priodol, gan gynnwys canllawiau;
  • yr effaith ar y systemau cyllido presennol a sut y cân nhw eu haddasu;
  • yr amserlen ar gyfer rhoi’r cymwysterau cyfun ar waith; a
  • threfniadau pontio ar gyfer ymgeiswyr sy’n dilyn y cymwysterau presennol mewn Sgiliau Sylfaenol a Sgiliau Allweddol.  
    Mwy
Mwy
 
Newyddion Sgiliau Allweddol, Hydref 2007 PDF Argraffu  E-bost
Wednesday, 05 September 2007

 

Croeso i Sgiliau Allweddol 2007-08, a chroeso arbennig i'r rhai ohonoch sydd newydd ddechrau ar sgiliau allweddol ynghyd â'r 74 o ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant sydd bellach yn cynnig Bagloriaeth Cymru.

Am ddarllen mwy...
 
<< Dechrau < Blaenorol 1 2 3 4 Nesaf > Diwedd >>

Canlyniadau 1 - 10 o 34

Chwilio'r safle

Latest Events

Dim digwyddiadau

Calendr digwyddiadau

Ceir gwybodaeth am ddigwyddiadau Dysg yn y calendr
< Tachwedd 2008 > »
S Ll M M I G S
26 27 28 29 30 31 1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30 1 2 3 4 5 6
Wedi ei sefydlu yn 2000, mae Rhaglen Gymorth Sgiliau Allweddol Cymru, Llywodreath Cynulliad Cymru yn cynnig cyngor am ddim ar gyfer darpariaeth sgiliau allweddol ar draws Cymru.